
Rhwng 1982-7 roeddwn i'n canu gyda'r band roc Cymraeg Ceffyl Pren. Gwnaethom perfformio 100 neu fwy o weithiau yn fyw, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, y dwyrain pell a Gogledd America ar daith ddwywaith. Bob amser yn canu yn y Gymraeg.
Ar ôl imi adael y band, nes i barhau i ysgrifennu caneuon gydag artisitaid Heneghan a Lawson, Mal Pope a Steve Allan Jones.
Nes i gyfieithu
rhai o ganeuon yr Alarm ar eu record
hir Change/Newid. Nes i gynhyrchu sesiwn y band i'r BBC gyda Chôr Orpheus
Morrison. Tony Visconti oedd yna i gynhyrchu'r caneuon ar gyfer yr albwm, gan
gynnwys y gân Hwylio Dros y Mor / A New South Wales. Cyflwynodd y band
disg arian i mi ar gyfer gwerthu 60,000 o gopïau o ' r albwm hwn.
Rhwng 1989-93, tra'n gweithio fel cynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru, nes i gynhyrchu
sesiynau gan artistes fel John Cale, Gorky's Zygotic Mynci, Datblygu a pheilot
arbrofol cymysgu electronica a newyddion gan Ty^ Gwydr.
Roedd gen i raglen radio am gerddoriath y byd ar Radio Cymru. Enw'r rhaglen oedd Canu'r Byd. Nes i recordio yn y maes ar gyfer y rhaglen yn Sarawak, India ac Awstralia.
Nes i fynd i fynyddoedd Altai y Mongolia gyda Paul Islwyn Thomas i gyflwyno rhaglen deledu ddogfen am ganu khoomïy ar gyfer S4C yn 1993.
Tra ' n byw yn County Kerry, Gweriniaeth Iwerddon, chwaraeais cerddoriaeth traddodiadol Iwerddon bob wythnos yn Joe's Piano Bar yn Ardfert.
Ers troad y Mileniwm,
teulu sydd wedi cael blaenoriaeth dros chwarae a chynhyrchu cerddoriaeth, ond
yr wyf yn dal i fwynhau gwrando.
gareth AT einiog DOT com