Erthygl gan Gareth Morlais i CommsCymru 2013
Troi pethau wyneb i waered, oi gymharu efo fel oedden nhw. Dyna dwin hoffi am yr
hyn maer cyfryngau cymdeithasol wedi dod ir byd cyfathrebu ar cyfryngau eraill.
Pan nes i deithio i Aberystwyth i fod yn rhan or gynhadledd Hacior Iaith gyntaf
yno yn 2007, nes i ddim dychmygu y buaswn in gweithio un dydd fel un o dîm syn
gweithio gydar Gweinidog Leighton Andrews A.S. ar dechnoleg ar iaith Gymraeg.
Ar secondiad gydag Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru o wefan y BBC oeddwn
i. Social action broadcasting a straeon digidol yw fy nghefndir. Ers i weithio gyda
gwirfoddolwyr CSV Media ar wythnos o raglenni am fod yn ddigartref i Radio
Cymru nol ym 1992, mae gen i dân yn fy mol i drio helpu unigolion a grwpiau i gael
llais ar y cyfryngau torfol.
Ar ôl gadael y BBC ganol y 90au, nes i lansio Marcher Action ar fy ngorsaf leol
newydd Marcher Coast FM ym Mae Colwyn. Wedyn nes i rywbeth tebyg gyda TNL
Radio yn Colombo, Sri Lanka am ddeunaw mis. Yn Sri Lanka nes i ddefnyddior we
am y tro cyntaf. Roedd y potensial i hunan-gyhoeddi yn gyffrous dros ben. Dysgais
fy hun i godio HTML a phan ddes i nôl i weithio gyda BBC Cymru, nes i godio
gwefannau cynta bbc.co.uk/cymru a bbc.co.uk/wales gan ddefnyddio Windows 3.1
Notepad. Nes i barhau i weithio gyda BBC Online.
Yn 2001 nes i weld rhywbeth wnaeth newid fy myd. Roeddwn i mewn seminar
Platfform yn BBC Cymru ac yn siarad roedd Daniel Meadows o Brifysgol Caerdydd.
Dangosodd stori ddigidol roedd o wedi creu mewn gweithdy ym Mhrifysgol Berkley
gydar Center for Digital Storytelling. Tan hynny, roedd teledu yn rhywbeth oedd yn
cael ei greu ar beiriannau tâp Sony a oedd yn costio £20,000 yr un; am y tro cynta
rw^an roedd modd
creu teledu ar fwrdd y gegin gyda laptop Macintosh! Fideos dau-
funud yw straeon digidol, wedi eu creu mewn gweithdy hyfforddi gan bobl syn
adrodd stori bersonol gan ddefnyddio lluniau ou harchif personol nhw. Gweithiais
gyda thîm straeon digidol y BBC - Cipolwg ar Gymru / Capture Wales - tan 2008.
Es yn ôl wedyn i weithio ar wefan bbc.co.uk/cymru. Addasiad Cymraeg o wefan
CBeebies Tree Fu Tom oedd un om comisiynau mwyaf poblogaidd.
Dechreuodd fy secondiad or BBC i Uned Gymraeg Llywodraeth Cymru ym mis
Gorffennaf 2012. Y sialens fwyaf oedd ceisio darbwyllo Apple, Google, Microsoft,
Twitter, Amazon, Adobe ar prif gwmnïau technegol eraill i gyflwyno casgliadau a
rhyngwynebau Cymraeg newydd. Bues i hefyd yn trefnu hyfforddiant a gwasanaethau
newydd i alluogi ac ysbrydoli pobl i gyhoeddi erthyglau a gemau Cymraeg ar-lein.
Tu allan i waith, dwin yn un o gyfarwyddwyr Breaking Barriers Community Arts yn
Llanhilleth ac yn un o ymddiriedolwyr Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig. A
dwin cynnal gwefannau lleol am Abergele yn Saesneg a Bae Colwyn yn Gymraeg.
Y datblygiadau syn fy nghyffroi ym myd cyfathrebu ywr ffaith ein bod yn gallu
dweud ta-ta wrth yr hen ffordd paternalistaidd o ddarlledu negeseuon bellach.
Yn ei le, daw sgwrs gyhoeddus syn digwydd rhwng mudiadau neu gwmnïau
au cwsmeriaid. Maen broses mwy tryloyw lle maer mudiad yn fwy agored ar
dinesydd yn cael mwy o ddylanwad ar weithgareddaur mudiad. Ar gyfer y sector
cyhoeddus syn gwario arian cyhoeddus, maer atebolrwydd syn dod allan or
ddeialog, nid darllediad, yn werthfawr i ddinasyddion.
Ond maer ffordd yma o weithio yn codi cwestiynau hefyd:
Os ydych chi ach staff yn gweithio oriau swyddfa, sut ydych chin delio gyda
chwyn syn cael ei gyhoeddi ai ail-drydar ar Twitter o 7y.h. ar nos Wener?
Ydych chin ymateb i bob sylw yn gyhoeddus?
Ai dim ond y pwyntiau positif ddylech chi ail-drydar neu gymeradwyo?
Sut ddylech chi ddelio gyda chyfrifon spoof fel <http://
www.welshassembly.net> ?
Pwy ddylech chi ddilyn? ... a dim dilyn?
A ddylech chi osod eich cyfrif Twitter i ddefnyddio http:// neu https:// (ateb:
yr ail)
Sut mae gwybod faint i gyhoeddi, faint i ymateb a faint i ail-drydar? Cadw
cytbwysedd rhesymol rhwng yr hyn rydych chin ei darddu, trafod ac ail-gylchu.
Wrth weithio yn aml-ieithol, sut mae delio gyda Chymraeg a Saesneg - ac
ieithoedd eraill hefyd efallai?
A thu draw i Twitter, mae Facebook, Pinterest, Flickr, YouTube a llwyth o wefannau
ac aps rhwydweithio cymdeithasol yn codi pwyntiau dyrys eraill.
Maer wefr yn gwibio ir ddwy gyfeiriad n ôl ac ymlaen ar hyd y gwifrau bellach,
gyda mwy o negeseuon yn ein cyrraedd ni nac ydyn ni yn gallu eu danfon mas. Yn
y pen draw, sgwrs ddwy-ffordd ydy cyfathrebu ac maer cyfryngau cymdeithasol yn
hwyluso hyn.
gareth MALWEN einiog DOT com