Arweinydd straeon digidol gyda phrofiad eang o greu gwefannau. Cynhyrchydd gwefan cyntaf BBC Cymru, rheolwr prosiectau radio yng Nghymru ac yn Sri Lanka. Yn arbenigo bellach yn y Gymraeg, technoleg a chyfryngau digidol.
Helpu cynyddu argaeledd cyfryngau rhyngweithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Annog y prif gwmnïau technegol rhyngwladol megis Google, Microsoft, Apple, Amazon, a.y.b., i gynnig mwy y yr iaith Gymraeg. Gweinyddu cronfa y Gymraeg, Technoleg a Chyfryngau Digidol Llywodraeth Cymru. Yn arbenigo yn y cyfryngau cymdeithasol ac yn annerch cynulleidfaoedd Mentrau Iaith Cymru, EduWiki2013 a seminar technoleg NPLD's 2014.
Comisiynu cynnwys a gwasanaethau Cymraeg ar-lein. Arwain ac ysbrydoli'r tîm sy'n cynhyrchu'r wefan bbc.co.uk/cymru, ac eithrio Newyddion a Dysgu. O'r celfyddydau i'r Eisteddfod; o hanes i'r hafan; o Pobol y Cwm i Blwyddyn Gron, mae'r uwch gynhyrchydd yn sicrhau fod cynnwys Cymraeg safonol ar gael ar y wefan a bod hyn yn apelio at yr ystod amrywiol o bobl sy'n siarad Cymraeg. Mae lobïo a pherswadio rheolwyr adrannau BBC Online i wasanaethu'r gynulleidfa Gymraeg yn rhan bwysig o'r rôl. Meithrin hinsawdd arloesol a datblygu strategaeth i wasanaethau Cymraeg y BBC ar y cyd gydag aelodau'r tîm mewn sesiynau syniadau a thrwy drefnu a mynychu sesiynau arsylwi defnydd Cymry o'r we. Rheoli perfformiad staff drwy gyfarfodydd rwtîn rheolaidd ac arfarniadau. Rheoli cyllidebau, monitro a chyrraedd targedau cyrhaeddiad, safon a gwariant allanol.
Dechrau fel cynhyrchydd ar y wefan ac wedyn dod yn gynhyrchydd y prosiect cyfan. Gweithio'n agos gyda'n cynulleidfaoedd ledled Cymru ac mewn partneriaethau gyda mudiadau a cholegau Cymreig. Gwnaethon ni ddatblygu model o hyfforddi hyfforddwyr er mwyn sicrhau bod y weithred o gynhyrchu straeon digidol yn parhau tu hwnt i fywyd y prosiect. Arweiniais dîm o'r BBC i gydweithio gyda Valleys Kids ar eu prosiect Rhondda Lives! Yn 2012 bydd DS7 - seithfed cynhadledd flynyddol straeon digidol Cymru - yn cael ei chynnal. Yn ogystal â datblygu a diffinio ein hethos a gosod safonau golygyddol, roedd angen i ni arloesi ym myd hawliau a chytundebau oherwydd natur ar-alw, rhyngwladol y rhyngrwyd.
Cynhyrchu gwefan Catchphrase i ddysgwyr Cymraeg gyda dros fil o danysgrifwyr i'r cylchlythyr wythnosol. Gweithio gyda chwmni Imaginet i greu gwefan gyntaf Pobol y Cwm.
Gweithio gydag adran gomisiynu BBC Cymru Wales. Helpu golygydd Radio Cymru i argyhoeddi cynulleidfa'r orsaf o fanteision ail-lansio'r orsaf i apelio at ystod fwy eang o'r cyhoedd. Gwnes i gynhyrchu cais buddugol Radio Wales am wobr Sony Gold Best Radio Station. Ymgynghori Media Merchants yn Southern TV ar raglen Art Attack. Ysgrifennu colofn wythnosol yn yr Abergele Visitor i North Wales Independent Press.
Sefydlu prosiect 'broadcast social action' cynta'r wlad. Roedd angen ymgynghori a chyd-drafod helaeth gyda thrigolion Colombo er mwyn sicrhau'r gwasanaeth mwyaf addas i'r gynulleidfa. Gyda chyngor adran newyddion BBC World Service, lluniais bolisi dogfen safonau golygyddol i wasanaeth newyddion TNL ar adeg o ryfel cartref yn y wlad. Aeth TNL Action ymlaen i ennill gwobr NAB International Award for Broadcast Excellence ym 1997.
Un o'r tîm wnaeth lansio'r orsaf radio annibynnol sydd heddiw yn rhan o Heart. Yn ein blwyddyn gyntaf, fe helpon ni 3,089 ar y ffôn, creu 960 o fwletinau newyddion lleol a darlledu 705 o gyfweliadau am bynciau o bwys i ogledd Cymru.
Teithio i Fongolia fel hanner o griw dau-ddyn i wneud rhaglen deledu i S4C am ganu khoom?y. Roeddwn i'n ymchwilydd, peiriannydd sain ac yn gyflwynydd; roedd Paul Islwyn Thomas yn gynhyrchydd, cyfarwyddwr a dyn camera.
Pob math o raglenni - cerddoriaeth yn bennaf. Hefyd, lansio a chynhyrchu rhaglen Radio 5 o Gymru o'r enw Rave drwy gydweithio yn olygyddol rhwng tair rhwydwaith radio.
Ar raglen fore Sadwrn Rob Brydon, hefyd eitemau Radio 3 a World Service.
- Dwi'n gyfarwyddwyr Breaking Barriers Community Arts, Llanhileth, ac yn ymddiriedolwr Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig.
- Dwi'n dal i droi ym myd y straeon digidol ar Twitter (@digitalst) ac ar flog aberth.com/blog.
- Dwi'n cynnal dau flog heipr-lleol am Abergele (Saesneg) ac am Bae Colwyn (Cymraeg).
- Arfer bod yn brif leisydd y grwp glam-roc Cymraeg Ceffyl Pren yn yr 80au. (Mwy am gerddoriaeth)
09 BBC Leadership Essentials (3x2 ddiwrnod)
01 - 04 MA (merit) Media Management, Prifysgol Leeds
77 - 79 naw Lefel O, gan gynnwys Mathemateg, Cymraeg a Saesneg
Dwi'n gyrru car.
Dwi'n rhugl yn yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg.
Wedi ennill gwobrau a chael fy nomineiddio am brosiectau amrywiol.
gareth AT einiog DOT com